Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiwygio Ariannol #4 Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2013

·         Darren Millar (Cadeirydd)

·         Ben Dyson (Siaradwr) [Positive Money]

·         Justin Lilley (Ysgrifennydd) [Arian Cymru]

·         Selwyn Runnett (Staff cymorth William Powel AC) [Bancio yng Nghefn Gwlad]

·         Duncan Higgnet (Staff cymorth Bethan Jenkins AC) [Addysg Ariannol a Chynhwysiad]

·         Harry White [Positive Money Cymru]

·         Indyren Yagambrun [GT Law]

·         Neil Turner [Positive Money Cymru]

·         Gruffydd Meredith [Arian Cymru]

·         Jane Taylor [gynt o Positive News]

·         Nathan Penn [Plaid Cymru]

·         Mike Colbourne [Canolog]

·         Parag Patel [Funding Empire]

·          

 

1. Cyflwyniad ac Ymddiheuriadau am Absenoldeb

DM: Mae'r cyflwyniad i broses y grŵp trawsbleidiol yn gofyn bod o leiaf un AC o bob plaid yn bresennol. Cafwyd ymddiheuriadau gan Aelodau Cynulliad nad oedd yn gallu dod. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yw cyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol, a bydd mwy yn dod i hwnnw. Nodwyd pwy oedd yn bresennol a chyflwynodd pawb oedd yno ei hun (gweler y rhestr uchod).

HW: Ben Dyson yw pencampwr diwygio ariannol yr oes hon, gan adeiladu ar waith rhagorol James Robertson a Joseph Huber.

DM: Ar 7 Tachwedd, cynhaliodd Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, gyfarfod yn y Senedd gyda busnesau ac aelodau o'r ymgyrch 'Bully-Banks' i drafod y Cynhyrchion Rhagfantoli Cyfraddau Llog a gamwerthwyd; nod y cyfarfod oedd cael cyfiawnder a rhoi stop ar yr arferion annheg ac anfoesegol hyn. Linc yma.

 

2. Cyflwyniad gan Ben Dyson o Positive Money

BD: O ble y daw arian? Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cymryd yn ganiataol y daw o Fanc Lloegr, ond yr ar arian parod yn unig y mae hwnnw'n ei greu, sef 3% o'r cyfanswm.  Rhifau yw'r 97% sy'n weddill, a banciau preifat sy'n creu hwnnw yn ddigidol wrth iddynt roi benthyciadau.

“When banks make loans, they create additional [bank] deposits for those that have borrowed the money” – Bank of England 2007 Q3 Quarterly Bulletin, t377

"The essence of the contemporary monetary system is creation          of money, out of nothing, by private banks’ often foolish lending..."Martin Wolf, Financial Times, 9 Tachwedd 2010

Mae'r economi yn dibynnu gormod ar fenthyciadau gan fanciau am ei chyflenwad arian. Rhwng 2001 a 2009, dyblodd y cyflenwad arian, gyda dyled yn chwyddo'r cynnydd yn artifisial, ond ers hynny mae'r cyflenwad arian wedi bod yn crebachu, tan yn ddiweddar iawn, gan fod banciau yn gyndyn o fenthyca oherwydd ofnau am ddyfodol yr economi ac wrth iddynt gronni eu cyfalaf i fodloni gofynion.

Cafodd yr arian newydd a grëwyd gan y system fancio yn y 10 mlynedd hyd at yr argyfwng ariannol ei ddyrannu fel a ganlyn: tai (40%), ariannol (37%), anariannol (13%), cardiau credyd a benthyciadau personol (10%)

“The financial crisis of 2007/08 occurred because we failed to constrain the private financial system’s creation of private credit and money.” Yr Arglwydd Adair Turner, cyn-gadeirydd yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, mewn araith i Fanc Cronfa De Affrica, 2 Tachwedd, 2012

O ran yr adferiad, nid yw pethau cystal ag yr oeddent cyn yr argyfwng ac mae busnesau yn cael trafferth o hyd wrth geisio cael benthyciadau gan fanciau. Cost ddynol yr argyfwng yw cwymp mewn termau real yn safonau byw pobl.

O dan y system bresennol, mae'r system fancio'n creu mwy o arian yn sgîl benthyca ychwanegol. Ar y llaw arall, fodd bynnag, mae ad-dalu benthyciadau yn golygu bod y system fancio yn dinistrio arian. O ganlyniad, fel rheol:

mwy o arian => mwy o ddyledion, llai o ddyledion => llai o arian

Mae'r ffocws ym mholisi'r llywodraeth a Banc Lloegr wedi bod ar "sicrhau bod banciau yn rhoi benthyciadau eto".

Mae ad-dalu benthyciadau yn golygu bod llai o arian yn cylchredeg. Os ad-delir benthyciadau yn gynt nag y gellir gwneud benthyciadau newydd, bydd llai o arian yn yr economi, ac mae dirwasgiad yn debygol o'r herwydd. Mae hynny'n esbonio'r parhau â'r polisi o log tra isel (0.5%) a chynlluniau cymorth i brynu. Ond mae ysgogi mwy o fenthyca ar gyfer morgeisi yn beryglus, gan y gall codi swigen arall.

Mae Adair Turner, cyn-gadeirydd yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, wedi disgrifio defnyddio Cymorth i Brynu i ysgogi trosoledd preifat yn strategaeth economaidd sy’n "gudyn o'r ci a’ch cnoes" (ar Newsnight).

Mae gan Fanc Lloegr y gallu i greu arian heb ddyledion, ond nid yw'n defnyddio'r gallu hwnnw.

Creodd Banc Lloegr £375 biliwn drwy leddfu meintiol. Defnyddiwyd yr arian newydd ei greu i brynu bondiau'r llywodraeth oddi wrth gronfeydd pensiynau a chwmnïau yswiriant (yn bennaf) i bwmpio arian i'r marchnadoedd ariannol.

 Dywedodd Mervyn King: "a damaged system means banks are not creating enough money and we have to do it for them",  a hynny drwy leddfu meintiol. Oherwydd lleddfu meintiol, cafwyd cynnydd o 20% ym mhrisiau stoc, ond oherwydd eu perchnogaeth o asedau yn y marchnadoedd ariannol, gwelodd y 5% uchaf gynnydd o £128,000 ar gyfartaledd.

Y syniad oedd y byddai pobl sy'n dal asedau yn teimlo'n gyfoethocach ac felly y byddent yn GWARIO mwy yn yr economi go iawn, a fyddai'n caniatáu i gyfoeth raeadru ac i arian gylchredeg. Mewn gwirionedd, maent yn gweld prisiau eu stoc yn codi ac yn buddsoddi mwy yn y marchnadoedd, gan droi prisiau asedau yn fwy o swigen.

Mae dewis arall yn lle ysgogi'r adferiad ar sail dyledion:

 “‘Helicopter money’ – by which we mean overt money finance of increased fiscal deficits – may in some circumstances be the only certain way to stimulate nominal demand, and may carry with it less risk to future financial stability than the unconventional monetary policies currently being deployed.” Yr Arglwydd Adair Turner

Mae Positive Money wedi cyflwyno cynigion tebyg i'r rhai y mae'r Arglwydd Turner yn eu disgrifio. Mae'r cynigion yn amlinellu'r modd y gall Banc Lloegr greu arian "sofran", sy'n cael ei drosglwyddo i'r llywodraeth ac yna ei wario yn yr economi. Gall yr arian gael ei ddosbarthu fel a ganlyn:

Ø  Gwariant cyhoeddus (megis ar adeiladu tai fforddiadwy, ôl-ffitio tai, adeiladu seilwaith ynni adnewyddadwy, gwella cysylltiadau trafnidiaeth ac ati)

Ø  Torri trethi (gostyngiadau yn y dreth incwm, treth ceir neu drethi tanwydd)

Ø  Busnes (credyd llog isel i fusnesau bach a chanolig eu maint)

Ø  Difidend dinasyddion (taliad arian sychion i bob dinesydd i'w gwario neu i dalu dyledion)

Gwahanu Pwerau

Faint o arian y dylid ei greu? > Penderfyniad i'r Pwyllgor (Rheoli) Polisi Ariannol

At beth y dylid defnyddio'r arian? > Penderfyniad llywodraeth etholedig.

Mae'r gwahanu pwerau fel hyn yn atal llywodraeth etholedig rhag cam-drin y gallu i greu arian at ddibenion gwleidyddol tymor byr. Caiff benderfynu sut i ddosbarthu'r arian, ond nid faint y bydd yn ei greu.

Enghraifft

Petai Banc Lloegr yn creu £10 biliwn o arian newydd drwy system Creu Arian Sofran ac yn ei wario ar adeiladu tai fforddiadwy, yr effaith fesul cam fyddai hyn:

1. Mae Banc Lloegr yn creu £10 biliwn > mae'r llywodraeth yn talu cyflogwyr > mae'r cyflogwyr yn talu eu gweithwyr

2. Mae gweithwyr yn gwario eu hincwm yn yr economi

3. Mae gweithwyr a chyflogwyr yn talu trethi.  Am bob £10 biliwn sy'n cael ei wario, gan gynnwys effaith y lluosydd ar GDP, mae enillion yn y pen draw o £5.6 biliwn mewn refeniw treth.

4. Mae ton arall o wariant yn golygu bod pob £10 biliwn sy'n cael ei greu a'i wario yn yr economi yn arwain at werth tua £28 biliwn o ran GDP ychwanegol.

5. Bydd y rhai sy'n derbyn peth o'r gwariant ychwanegol hwn yn ei ddefnyddio i ad-dalu benthyciadau. Mae hyn yn lleihau mantolen y sector bancio yn fras ac yn lleihau trosoledd banciau. Gyda throsoledd is (h.y. mwy o gyfalaf yn gymharol), mae'r banciau yn fwy tebygol o ddechrau benthyca eto.

Cymharer achosion hanesyddol: ym mis Gorffennaf 2005, creodd y banciau £7 biliwn o arian newydd ar gyfer y farchnad morgeisi ac, ym mis Medi 2007, crewyd £16 biliwn.

Mewn cyferbyniad, i'r ysgolion yng Nghymru y mae angen eu hailadeiladu ar hyn o bryd, mae'r llywodraeth wedi cymeradwyo £1.361 biliwn hyd at 2015 a £4.6 biliwn dros 20 mlynedd. Ond fe ohiriodd y rhaglen hon oherwydd prinder arian. Petasai Banc Lloegr wedi ei hariannu trwy greu arian, yn arbennig yn syth ar ôl yr argyfwng, gallai fod wedi rhoi hwb i GDP a chyflogaeth, a gallai fod wedi arbed arian i drethdalwyr.

Canlyniad terfynol y £375 biliwn o leddfu meintiol> GDP yn codi £23 biliwn  - "Swigen yn y Farchnad Stoc"

Mae cynnydd £?>?% ym mhrisiau tai oherwydd Cymorth i Brynu –  "Rhaniad anwastad"/" ffafriaeth i'r De-ddwyrain neu'r lle gweithredu fel draen"

Drwy Greu Arian Sofran, byddai creu £10 biliwn > cynnydd o £28 biliwn yn GDP.  £5.6 biliwn mewn refeniw treth. Gostyngiad yn y dyledion personol

Gyrrir yr adferiad economaidd presennol gan gynnydd mewn dyledion personol a dyledion cartrefi. Ond mae hyn yn anghynaliadwy. Y ffordd o gynnal yr adferiad yw i Fanc Lloegr greu arian drwy system Creu Arian Sofran ac i'r arian hwnnw fynd yn uniongyrchol i'r economi go iawn (drwy wariant y llywodraeth, torri trethi neu ddifidend dinasyddion).

 

3. Sesiwn Holi ac Ateb

Cafwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad.

 

4. Sylwadau i gloi

DM: Crynodeb am system Creu Arian Sofran. Mae'r system genedlaethol ar gyfer bancio ac arian yn fater nas datganolwyd, ond yng Nghymru, gallwn wneud ein gorau i addysgu'r cyhoedd ac ysgogi trafodaeth yn y Cynulliad.

Gallai Llywodraeth Cymru, mewn egwyddor, weithredu banc cyhoeddus a defnyddio bolisi o system Creu Arian Sofran gyda chaniatâd Banc Lloegr.

Prif rôl y grŵp trawsbleidiol hwn ddylai fod torri drwy'r cymhlethdod, addysgu a dangos pa mor syml yw creu arian a'r modd y gall weithio er lles y bobl a byd busnes. Wrth wneud hynny, rydym yn gobeithio tynnu sylw at rinweddau Diwygio Ariannol ac atebion posibl eraill, megis arian cyflenwol a benthyca rhwng cymheiriaid.

Mae hyn wedi bod yn gyfarfod buddiol. Mae copïau o'r sleidiau ar gael gan Ben Dyson.

Cofrestrwch gyda Positive Money UK i gael gwybod mwy ac i gefnogi Diwygio Ariannol yng Nghymru ar www.ariancymru.eu

 

5. Dyddiad y cyfarfod nesaf

Y cyfarfod nesaf yw'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chaiff dyddiadau eu dosbarthu maes o law.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Crynodeb o'r sesiwn holi ac ateb

JT: Sut mae lleddfu meintiol yn cyrraedd y bobl?

BD: Ar hyn o bryd, nid oes llawer yn eu cyrraedd. Mae Banc Lloegr yn prynu bondiau ag arian, ac mae gwerthwyr y bondiau wedyn yn buddsoddi mewn asedau eraill, gan chwyddo'r y marchnadoedd. Y 5% uchaf sy'n elwa fwyaf, gan fod 40% o'r asedau yn eu dwylo nhw. Mae crynhoi asedau fel hyn yn niweidiol i'r economi gyfan.

 

HW: A oes gan y 5% uchaf fwy o ddylanwad yn y marchnadoedd bondiau nag yn y cronfeydd pensiynau?

BD: Oes, ond mae cysylltiad ac mae'n debyg y bydd ganddynt gyfranddaliadau mewn cronfeydd pensiynau.

 

GM: A allai hyn gyd-fynd â banc cyhoeddus i Gymru?

BD: Byddai'n rhaid i fanc o'r fath fodloni gofynion Banc Lloegr ar gyfer banciau, ond nid oes rheswm na allai. Sefydlwyd y Banc Buddsoddi Gwyrdd gyda gwerth £3 biliwn.

 

DM: A yw hwn yn rhywbeth byd-eang?

BD: Ydy. Cyhoeddodd yr Athro Michael Kumhof o'r Gronfa Ariannol Ryngwladol y Chicago Plan Revisited, lle mae'n dilysu cynigion Irving Fisher i gyfyngu benthyca banciau i'r Gronfa Lawn.

 

DM: Oni fyddai hynny'n peri problem i'r banciau? Mae banciau yn chwilio am elw ac, ar hyn o bryd, dyna sut y cânt wneud arian heb risg.

BD: Mae banciau masnachol yn benthyca mwy o arian na'r hyn sydd yn eu meddiant ac maent wedi arfer ag elwa ar y llog a godir ar y dyledion. Ni fydd yn hawdd eu gorfodi i fenthyca dim ond yr arian sydd ganddynt.

 

DM: Beth am gymorth i brynu?

BD: Byddai cael mwy o forgeisi am yr un nifer o dai yn arwain at chwyddiant ym mhrisiau asedau. Y dewis arall yw adeiladu tai newydd a chynyddu'r cyflenwad a chapasiti cynhyrchu.

 

JL: Mae grwpiau tebyg bellach yn Seland Newydd, Israel, yr Almaen, Ffrainc a llawer o fannau eraill; a oes gan Positive Money gysylltiadau ag eraill sy'n gweithio ar hyn?

BD: Sefydlasom y Mudiad Rhyngwladol ar gyfer Diwygio Ariannol yn ddiweddar i wneud hynny. Mae pobl ar draws y byd wir yn dechrau gwrando a chymryd rhan.

 

JL: Mae'r Athro Richard Werner, sy'n un o gyfarwyddwyr Positive Money, wedi cynnig sefydlu Banc Cronfa Lawn (un preifat); a oes cynnydd wedi bod?

BD: Byddai ar Fanciau Cronfa Lawn gyfyngiadau o ran cystadlu o dan y system bresennol. Tasg i'r banc yn hytrach na'r gymdeithas fyddai rheoli'r risgiau a'r gwobrau.

 

MC: Mae'n ymddangos bod arian ac adnoddau wedi colli cysylltiad oherwydd cymhlethdod.

BD: Cytuno. Dyna pam mae angen system Creu Arian Sofran, i weithredu fel ysgogiad ac i bobl ddeall y broses drwy iddynt gael eu hysbysu a thrwy fwrw ymlaen â'r ddadl.

 

DM: Byddai'n ysgogi twf, ond ai GDP sydd orau am ddangos bod economi yn iach?

BD: Nid oes modd cynnal twf sy'n seiliedig ar ddyled. Edrychwch ar RBS; byddai gadael iddo fethu wedi effeithio ar 10 miliwn o gwsmeriaid. Efallai nad yw GDP yn berffaith, ond mae'n mesur gweithgarwch a dyna sydd ei angen; er, mae hynny'n brin oherwydd i arian fynd yn llai a chredyd yn dynn.

 

MC: Nid oes modd cynnal model o dwf diddiwedd; mae angen economi sy'n seiliedig ar adnoddau.

BD: Mewn system ariannol, yr ydym yn rhwym i reolau penodol, yn union fel y system wleidyddol. Rydym yn ceisio newid y strategaeth yn unol â'r rheolau i gynhyrchu hirhoedledd sefydlog.

 

JL: A ystyrir adneuwyr banc yn gredydwyr ansicredig?

BD: Fe'u hystyrir felly, ond y broblem yw, am fod y Llywodraeth yn gwarantu £85,000 o adneuon cwsmeriaid, nid oes rheswm i'r banciau masnachol newid eu ffyrdd.

 

HW: Mae Banc Canolog Ewrop, y Gronfa Ffederal, Banc Aneddiadau Rhyngwladol a Banc Lloegr yn bwgwth cyflwyno dull o achub economaidd fyddai'n gofyn i gredydwyr aberthu rhywfaint o'u hasedau (bail-ins), ac mae hynny'n golygu bod modd atafaelu ein hadneuon, gyda thystysgrifau ecwiti mewn banc diwerth yn eu lle.

BD: Gallai hynny ddigwydd pan fydd gan fanc fwy o ddyledion nag asedau ar ei fantolen, sef fel arfer pan fydd banc yn cario llawer o ddyledion drwg.

 

JL: Dyna a ddigwyddodd pan gafodd y Banc Co-operative ei ddatgydfuddiannu oherwydd dyledion drwg, ac mae bellach yn colli ei strwythur cydweithredol ac yn mynd yn breifat. Oni ddylai pobl wybod mwy am yr hyn sy'n digwydd?

BD: Dylent. Fel sefydliadau cydfuddiannol eraill, anghofiodd y Co-operative ei gylch gwaith a dechreuodd ymddwyn fel banc masnachol. Roedd pob gwleidydd ar y pryd fel pe bai o blaid y Co-operative yn prynu portffolio benthyciadau y Britannia gan mai ychydig oedd yn ei ddeall.

 

NP: Beth arall sy'n cael ei wneud?

BD: Mae'r Sefydliad Economeg Newydd wedi cyhoeddi Lleddfu Meintiol Strategol, sy'n debyg i 'arian hofrennydd' y cyllido ag arian amlwg a'r system Creu Arian Sofran, ond bydd yn golygu ailddosbarthu peth o'r £375 biliwn a grewyd rwy leddfu meintiol yn ôl i'r economi gynhyrchiol.

 

HW: Eglurwch y 'dreth arglwydd' (seigniorage)?

BD: Mae'r buddion arian sy'n mynd i'r wladwriaeth yn hafal â gwerth yr arian namyn y gost o'i gynhyrchu. Gydag arian electronig, mae'r buddion yn mynd yn uniongyrchol i'r banciau masnachol ac nid oes costau cynhyrchu. Pe bai hyn yn cael ei newid fel y byddai'r wladwriaeth yn creu'r arian i gyd, yna byddai'r holl fuddion, neu'r 'dreth arglwydd', yn mynd i'r wladwriaeth.

DM: Faint sy'n ei chefnogi yn y Senedd?

HW: Mae tua 25 i'w gweld yn cefnogi'r cynnig cynnar-yn-y-dydd.

NP: Yn ddiweddar, mae'r cynnig i ddod â phunt Bradbury yn ôl ar gyfer y canmlwyddiant y flwyddyn nesaf wedi cael mwy o ddiddordeb.

BD: Rydym yn siarad â llawer o Aelodau Seneddol a chyrff dylanwadol.

 

IY: Yn ei waith ar "Swigod Dyled", dywed Simon Johnson y dylid anghofio am y rhai sy'n 'rhy fawr i fethu' a phoeni am y rhai sy'n 'rhy fawr i'w hachub'. Sut y gallwn sicrhau cyfiawnder i bobl Cymru am y miloedd o gynhyrchion ariannol a gam-werthwyd?

DM: Rhaid cofio nad yw ein pwerau yn mynd y tu hwnt i'r hyn sydd wedi'i ddatganoli. Mae llawer o waith da yn digwydd yn y Cynulliad gyda'r grŵp sy'n gweithredu yn erbyn cam-werthu cytundebau cyfnewid cyfraddau llog.

BD: Mae grwpiau sy'n ymladd cyd-achosion yn llwyddo oherwydd bod banciau wedi cael eu dirwyo ac mae ganddynt arian wrth gefn i dalu hawlwyr yn gyflym. Nid yw'r dirwyon ond yn rhan fechan o'r elw a wnaed drwy greu arian preifat ac nid ydynt felly yn fawr o gosb.

 

DM: Diolch yn fawr i Ben ac i bawb. Fel yr wyf yn ei deall, nid yw galw am newid yn y system arian genedlaethol yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ond gall Llywodraeth Cymru, mewn egwyddor, weithredu banc cyhoeddus a defnyddio polisi i Greu Arian Sofran gyda chaniatâd Banc Lloegr.

Prif rôl y grŵp trawsbleidiol hwn ddylai fod torri drwy'r cymhlethdod, addysgu a dangos pa mor syml yw creu arian a'r modd y gall weithio er lles y bobl a byd busnes. Wrth wneud hynny, rydym yn gobeithio tynnu sylw at rinweddau Diwygio Ariannol ac atebion posibl eraill, fel arian cyflenwol a benthyca rhwng cymheiriaid.

Y cyfarfod nesaf yw'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a bydd ganddo naws wahanol, ond mae'r cyfarfod hwn wedi bod yn fuddiol iawn. Mae copïau o'r sleidiau ar gael gan Ben Dyson.

Cofrestrwch gyda Positive Money UK a chefnogi Diwygio Arian, os gwelwch yn dda.

“The key function of banks is money creation, not intermediation.” ~  Michael Kumhof , Dirprwy Bennaeth Is-adran, Uned Modelu, Adran Ymchwil, Y Gronfa Ariannol Ryngwladol

“The banking system can thus create credit and create spending power – a reality not well captured by many apparently common sense descriptions of the functions which banks perform.  Banks it is often said take deposits from savers (for instance households) and lend it to borrowers (for instance businesses) with the quality of this credit allocation process a key driver of allocative efficiency within the economy.  But in fact they don’t just allocate pre-existing savings, collectively they create both credit and the deposit money which appears to finance that credit.”~Adair Turner, Cadeirydd yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, yn ei araith: 'Credit Creation and Social Optimality', Medi 2011